LLAETHDY CWM GWENDRAETH DAIRIES – TELERAU AC AMODAU GWERTHU
1. Cyflwyniad
- 1.1. Ni yw Llaethdy Cwm Gwendraeth Dairies Cyf., cwmni cyfyngedig gyda'r rhif cwmni 12676057 a'n swyddfa gofrestredig yn Fferm Penrhiw, Cwmisfael, Llanddarog, Sir Gâr, Cymru SA32 8BY (“ni” neu “ein”).
- 1.2. Dyma'r telerau ac amodau ar gyfer dosbarthu llaeth ffres lleol ac unrhyw gynnyrch arall a gynigiwn o bryd i'w gilydd (gyda'i gilydd y “Cynnyrch”) yn syth i'ch drws. Rydym yn cyflenwi cynnyrch ar y dybiaeth eich bod yn brynwyr domestig preifat, a rhaid i chi roi gwybod i ni os nad yw hyn yn wir.
- Darllenwch y telerau ac amodau hyn cyn archebu. Trwy gyflwyno Ffurflen Archebu rydych yn derbyn ac yn cytuno i'r telerau ac amodau hyn. Os na fyddwch yn derbyn y telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â gosod archeb am gynnyrch.
2. Cofrestru ac Archebion
- 2.1. Gallwch gofrestru ar gyfer cyfrif a chyflenwadau (“Cyfrif”) a gosod archeb am gynnyrch trwy lenwi copi o'n ffurflen archebu (“Ffurflen Archebu”) sydd naill ai wedi dod i law drwy eich drws neu wedi'i lawr lwytho o'n gwefan www.cgvalley.co.uk (y “Wefan”).
- 2.2. Mae prisiau'r cynnyrch wedi'i rhestri ar y Ffurflen Archeb. Mae pob pris yn cynnwys TAW.
- 2.3. Gallwn dderbyn Ffurflenni Archebu:
- 2.3.1. drwy'r post i Fferm Penrhiw, Cwmisfael, Sir Gâr SA32 8BY neu
- 2.3.2. trwy e-bost ar ffurf sgan neu lun i milk@cgvalley.co.uk
- 2.4. Rydych yn derbyn y gallwn, yn ôl ein disgresiwn yn unig, ddewis derbyn neu wrthod eich ffurflen archebu. Efallai y byddwn er enghraifft, yn gwrthod ffurflen archebu os ydych wedi'ch lleoli y tu allan i'r ardal ddosbarthu, fel y nodir ar ein gwefan.
- 2.5. Os ydym wedi derbyn eich ffurflen archebu, caiff contract cyfreithiol rhwymol ei greu rhyngom yn seiliedig ar y telerau ac amodau hyn. Rhaid i chi wedyn sefydlu archeb sefydlog gyda'ch banc. Mae templed o ffurflen archeb sefydlog ar gael i'w lawr lwytho o'r wefan. Bydd angen sefydlu'r archeb sefydlog wythnosol ar gyfer eich taliad cylchol gan ddefnyddio'r ffigwr o'r blwch ‘cyfanswm mawr' yn eich ffurflen archebu (“Cyfradd”).
- 2.6. Gall pob pris newid, ac os byddwn yn gwneud newidiadau i'n prisiau cyhoeddedig, byddwn yn eich hysbysu trwy e-bost a bydd angen i chi newid eich archeb sefydlog yn unol â hynny.
- 2.7. Unwaith y bydd eich cyfrif wedi'i greu byddwch yn cael manylion mewngofnodi i gael mynediad i'n porth cwsmeriaid ar-lein (y “Porth Cwsmeriaid Ar-lein”) a gyrchir trwy'r wefan.
- 2.8. Gellir cysylltu â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid (y “Tîm”) drwy ffonio 01269 506100 neu drwy anfon e-bost at milk@cgvalley.co.uk. Os ydych yn ansicr am unrhyw ran o'r broses gofrestru ac archebu, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm.
- 2.9. Oni bai eich bod yn cysylltu â ni i wneud newidiadau i'ch cyfrif, byddwch yn derbyn yr un swm o gynnyrch bob wythnos (“Archeb Gylchol”). Gallwch reoli neu ddiwygio eich archeb gylchol trwy ddefnyddio'r porth. Os oes angen i chi newid eich archeb gylchol, neu wneud newid un tro yn unig, gallwch naill ai defnyddio ein porth neu gysylltu â'r tîm.
- 2.10. Os mewn unrhyw fis penodol, oherwydd newid eich archeb, rydych wedi derbyn llai o gynnyrch na talwyd am, bydd eich cyfrif yn cael ei gredydu â'r gwahaniaeth. I'r gwrthwyneb, os ydych wedi derbyn mwy o gynnyrch mewn unrhyw fis penodol y talwyd am, bydd y gwahaniaeth yn cael ei bilio i chi ar ddiwedd y mis hwnnw a bydd unrhyw anfoneb o'r fath yn daladwy o fewn 14 diwrnod o ddydd yr anfoneb. Bydd unrhyw anfonebau o'r fath yn cael eu hanfon trwy e-bost a byddant yn daladwy trwy drosglwyddiad banc neu gerdyn trwy ffonio'r tîm.
3. Dosbarthiad
- 3.1. Mae ein gyrwyr lleol yn dosbarthu ddwywaith yr wythnos.
- 3.2. Gallwch ddewis defnyddio un o'n blychau i'w osod ar y wal i dderbyn cyflenwadau cynnyrch. Mae'r rhain wedi'i inswleiddio ac yn dal 4 peint (“Blychau”). Mae angen blaendal ad- daladwy o £10 ac fe wnawn osod y blwch yn eich lleoliad. Os byddwch yn cau eich cyfrif wedi hyn, byddwn yn tynnu'r blwch ac yn ad-dalu'r blaendal o £10. Nid ydym yn gwneud unrhyw warant na gwarant o ran faint o amser y gellir gadael y cynnyrch yn y blychau cyn dechrau darfod. Chi sy'n gyfrifol am gadw allwedd y blwch yn ddiogel. Os byddwch yn colli'r allwedd, bydd angen i chi drefnu amnewid ar eich cost eich hun.
- 3.3. Gallwn atal cyflenwadau a chymryd unrhyw gamau eraill sy'n briodol yn ein barn ni os na fyddwn yn derbyn taliad mewn pryd.
4. Eich Cyfrifoldebau
- 4.1. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth ar y ffurflen archebu yn iawn, ac am sefydlu'r archeb sefydlog yn gywir.
- 4.2. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich lleoliad yn ddiogel i'n gyrwyr ei fynychu ac yn addas ar gyfer derbyn cynnyrch sy'n cael ei dosbarthu.
5. Taliadau Hwyr
- 5.1. Os na allwn gasglu unrhyw daliad sy'n ddyledus i ni, byddwn yn codi llog ar y swm gorddyledus ar gyfradd o 4% y flwyddyn uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr o bryd i'w gilydd. Mae'r llog hwn yn cronni'n ddyddiol o'r dyddiad dyledus hyd at ddyddiad talu'r swm gorddyledus, boed hynny cyn neu ar ôl y dyfarniad. Rydych chi'n talu'r llog i ni ynghyd ag unrhyw swm sy'n ddyledus.
- 5.2. Rydych yn cytuno i dalu'n llawn yr holl gostau, gwariant a threuliau rhesymol yr ydyn ni yn ei gael yn y broses o gael taliad gennych chi os bydd taliad yn aflwyddiannus.
6. TAW
Os fydd y gyfradd TAW yn newid rhwng eich dyddiad archebu a'r dyddiad rydym yn cyflenwi'r archeb, byddwn yn addasu'r gyfradd TAW rydych yn ei thalu oni bai eich bod eisoes wedi talu'n llawn cyn i'r newid yn y gyfradd TAW ddod i rym.
7. Oediadau
Nid ydym yn gyfrifol am oedi y tu allan i'n rheolaeth. Os caiff ein cyflenwad o'r cynnyrch ei ohirio oherwydd digwyddiad y tu allan i'n rheolaeth, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i roi gwybod i chi a gwneud yr hyn allwn i leihau'r oedi. Cyn belled â'n bod yn gwneud hyn, ni fyddwn yn eich digolledi am yr oedi ond os yw'r oedi'n debygol o fod yn sylweddol, gallwch gysylltu â'r tîm i gau eich cyfrif a derbyn ad-daliad am unrhyw gynnyrch rydych wedi talu amdano ond heb ei dderbyn.
8. Eich Hawliau Cyfreithiol
- 8.1. Rydych yn derbyn ac yn cytuno, oherwydd natur ffres a darfodus y cynnyrch, nid yw'r hawliau canslo a'r cyfnod ailfeddwl o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn berthnasol i werthu cynnyrch mewn cysylltiad â'r telerau hyn.
- 8.2. Os ydych yn meddwl bod rhywbeth o'i le ar eich cynnyrch, rhaid i chi gysylltu â'r tîm. Rydym yn anrhydeddu ein dyletswydd gyfreithiol i ddarparu cynhyrchion fel y disgrifir i chi ar y wefan ac sy'n bodloni'r holl ofynion a osodir gan y gyfraith. I gael gwybodaeth fanwl, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth www.citizenadvice.org.uk
- 8.3. Oherwydd natur ddarfodus y cynnyrch, rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw fater cyn y dyddiad ‘Defnyddio Erbyn' (neu ddyddiad cyfatebol).
9. Newidiadau i'r Cynnyrch a'r Dosbarthu
- 9.1. Gallwn bob amser newid y cynnyrch (fel y dull prosesu neu bacio a photeli er enghraifft) i adlewyrchu newidiadau mewn cyfreithiau perthnasol a gofynion rheoliadol.
- 9.2. Gallwn atal cyflenwad y cynnyrch er mwyn:
- 9.2.1. delio â phroblemau technegol neu wneud mân newidiadau technegol; neu
- 9.2.2. diweddaru'r cynnyrch i adlewyrchu newidiadau mewn cyfreithiau perthnasol a gofynion rheoliadol.
- 9.3. Byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw i ddweud wrthych ein bod yn atal cyflenwad y cynnyrch, oni bai bod y broblem yn un brys neu'n argyfwng. Os byddwn yn atal cyflenwad, byddwn yn ad-dalu unrhyw symiau a dalwyd gennych ymlaen llaw am gynhyrchion na fyddwch yn eu derbyn.
- 9.4. Rydym yn cadw'r hawl i gyfyngu neu derfynu cyflenwadau mewn unrhyw ardal benodol yn ôl ein disgresiwn yn unig. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau o'r fath pan fyddwn yn gallu.
10. Terfynu'r Contract
- 10.1. Gallwch gau'ch cyfrif ar unrhyw adeg trwy gysylltu â'r tîm.
- 10.2. Gallwn derfynu ein contract gyda chi os na fyddwch yn gwneud unrhyw daliad i ni pan fydd yn ddyledus ac nad ydych yn gwneud taliad o fewn 14 diwrnod wedi i ni eich atgoffa bod y taliad yn ddyledus.
11. Ein Cyfrifoldebau
- 11.1. Rydym yn gyfrifol am golledion yr ydych yn eu dioddef sy'n cael eu hachosi wrth i ni dorri'r contract hwn, oni bai bod y golled yn:
- 11.1.1. annisgwyl. Nid oedd yn amlwg y byddai'n digwydd ac nid oedd unrhyw beth a ddywedasoch wrthym cyn i chi dderbyn eich archeb yn golygu y dylem fod wedi ei disgwyl (felly, yn y gyfraith, nid oedd modd rhagweld y golled).
- 11.1.2. un sydd wedi ei achosi gan ddigwyddiad oedi y tu hwnt i'n rheolaeth. Cyn belled â'n bod wedi cymryd y camau a nodir yn adran 7, nid ydym yn gyfrifol am oedi y tu hwnt i'n rheolaeth.
- 11.1.3. gallu ei osgoi. Rhywbeth y gallech fod wedi'i osgoi drwy gymryd camau rhesymol, gan gynnwys dilyn ein cyfarwyddiadau rhesymol i'w defnyddio.
12. Polisi Preifatrwydd
Mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio unrhyw ddata personol a roddwch i ni wedi'i nodi yn ein Polisi Preifatrwydd ar y wefan.
13. Cwynion
- 13.1. Bydd y tîm yn gwneud eu gorau i ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych gyda ni neu'r cynnyrch.
- 13.2. Mae'r telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a dim ond yn llysoedd Cymru a Lloegr y clywir unrhyw honiadau yn ein herbyn.
14. Defnydd o'r Wefan
- 14.1. Rydym yn berchnogion neu daliwr trwyddedig pob hawl eiddo deallusol ar y wefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Mae'r gweithiau hyn wedi'i diogelu gan gyfreithiau hawlfraint a chytundebau ledled y byd. Mae pob hawl o'r fath yn cael eu cadw.
- 14.2. Darperir y cynnwys ar y wefan er gwybodaeth yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi beidio â chymryd neu ymatal rhag cymryd unrhyw gamau ar sail y cynnwys ar y wefan
- 14.3. Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru'r wybodaeth ar y wefan, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau, p'un ydynt yn cael ei fynegi neu'i awgrymu bod y cynnwys ar y wefan yn gywir, yn gyflawn neu'n gyfredol.
15. Telerau Pwysig Eraill
- 15.1. Gallwn drosglwyddo ein contract gyda chi, fel bod sefydliad gwahanol yn gyfrifol am gyflenwi'r cynnyrch.
- 15.2. Dim ond os ydym wedi cytuno i hyn y gallwch drosglwyddo eich contract gyda ni i rhywun arall.
- 15.3. Mae'r contract rhyngoch chi â ni. Ni all unrhyw un arall ei orfodi ac ni fydd angen i'r un ohonom ofyn i unrhyw un arall lofnodi ar ôl ei orffen neu ei newid.
- 15.4. Os bydd llys yn penderfynu bod rhai o'r telerau yn anghyfreithlon, bydd y telerau sy'n weddill yn parhau i fod yn berthnasol.
- 15.5. Efallai na fyddwn yn eich erlid ar unwaith am beidio â gwneud rhywbeth (fel talu) nac am wneud rhywbeth na chaniateir i chi ei wneud ond nid yw hynny'n golygu na allwn yn nes ymlaen.